Trosolwg

Mae’r wefan hon yn dangos y toriadau cyllidebol y mae ysgolion gwladol yng Nghymru wedi eu hwynebu dros y tair blynedd diwethaf. Bydd y dudalen hon yn dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am sut rydym yn cyfrifo ein ffigurau.

Os hoffech chi wirio ffeithiau neu atgynhyrchu ein rhifau, ewch ymlaen i’n methodoleg hirach, wedi’i hanodi gyda’n fformiwlâu a ffynhonnell ein setiau data.

Beth yw ystyr y rhifau ar y wefan?

Mae’r ffigurau ar y wefan hon yn dangos y gwahaniaeth rhwng faint o arian y mae ysgolion yn ei dderbyn fesul disgybl ar hyn o bryd o’i gymharu â’r hyn yr oeddent yn ei dderbyn yn 2015/16.

Sut mae’r ffigurau’n cael eu cyfrifo?

Rydym yn cymryd y data cyhoeddus o StatsCymru ar gyllid a niferoedd disgyblion er mwyn cyfrifo cyllid fesul disgybl ar gyfer 2010/11 hyd at 2023/24.

Mae’r ffigurau’n cael eu dangos mewn termau real – gan ddefnyddio mynegai costau ein hysgolion. Rydym wedi diwygio’r mynegai a ddatblygwyd gennym ar gyfer Lloegr. Rydym wedi defnyddio’r un ffigurau ar gyfer cyflog staff cymorth a chostau nad ydynt yn rhai staff. Mae athrawon yng Nghymru wedi derbyn cytundebau cyflog ychydig yn wahanol ers datganoli tâl athrawon yn 2019.

BlwyddynCynnydd cyflog
(CA)
Dirywiad cyflog
(CA)
Cyflog
(CA)
Cyflog
(BA)
Yswiriant Cenedlaethol
(BA)
Pensiynau
(BA)
Treth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(BA)
Newid blynyddol
(BA)
2010-112.3%0.0%2.3%2.3%0.0%0.0%2.3%
2011-120.0%0.0%0.0%1.0%0.4%0.0%1.4%
2012-130.0%0.0%0.0%0.0%0.1%0.0%0.1%
2013-141.0%0.0%1.0%0.6%0.0%0.0%0.5%
2014-151.0%0.0%1.0%1.0%-0.1%0.0%0.9%
2015-161.0%0.0%1.0%1.0%0.0%1.3%2.3%
2016-171.0%0.0%1.0%1.0%2.6%1.0%4.6%
2017-181.2%0.0%1.2%1.1%0.0%0.0%1.1%
2018-192.7%0.0%2.7%2.1%0.0%0.0%2.0%
2019-202.9%0.0%2.9%2.8%0.0%4.2%7.0%
2020-212.8%0.0%2.8%2.9%0.0%3.0%5.9%
2021-221.8%0.2%2.0%2.3%0.0%0.0%2.3%
2022-236.5%-0.2%6.3%4.5%0.0%0.0%0.4%4.9%
2023-245.0%0.0%5.0%5.5%0.0%0.0%-0.4%5.1%
(CA = Cyfnod Academaidd. BA = Blwyddyn Ariannol)

Mae’r elfennau o gostau ysgolion, cyflog athrawon, cyflog staff cymorth a chostau nad ydynt yn ymwneud a staffio wedi ei chyfuno i greu’r mynegai isod.

BlwyddynCyflogau athrawonCyflogau staff nad ydynt yn athrawonCostau nad ydynt yn rhai staffCostau craidd ysgolion fesul disgyblEgni Costau ysgolion fesul disgybl
2010-111.2%0.0%0.4%1.6%1.6%
2011-120.7%0.1%0.3%1.2%1.2%
2012-130.0%0.0%0.4%0.4%0.4%
2013-140.3%0.3%0.4%0.9%0.9%
2014-150.5%0.9%0.2%1.6%1.6%
2015-161.2%0.0%0.1%1.4%1.4%
2016-172.4%1.1%0.5%3.9%3.9%
2017-180.6%0.7%0.3%1.6%1.6%
2018-191.1%1.0%0.4%2.4%2.4%
2019-203.6%1.1%0.4%5.2%5.2%
2020-213.1%0.6%0.4%4.2%4.2%
2021-221.3%0.4%0.4%2.1%2.1%
2022-232.6%2.5%1.2%6.3%0.9%7.2%
2023-242.8%2.2%1.1%6.0%0.9%6.9%

Cyfrifiadau

PPF = Cyllid fesul Disgybl

ISB = Cyllideb Ysgolion Unigol

P = Disgyblion

CSP = Newid mewn grym gwariant

O ble daw ein data?

Rydym yn defnyddio data Llywodraeth Cymru fel sail ar gyfer ein holl gyfrifiadau.

Cyllideb Ysgol Ddirprwyedig, StatsCymru

Yn benodol, rydym wedi ystyried y setiau data yma:

  • Cyllideb ysgolion unigol
  • Nifer y disgyblion

Pa ddata sydd ddim yn cael ei gynnwys?

Rydym wedi defnyddio data ar lefel ysgol sydd ar gael yn gyhoeddus i wneud y cyfrifiadau ar gyfer ysgolion. Mae hyn yn sicrhau cywirdeb, ond mae’n golygu eithrio rhai cyllidebau.

Cyllid anghenion uchel – Oherwydd y nifer cymharol fach o ddisgyblion a’r dyraniad unigol mawr posibl, mae’n anodd gweld tueddiadau mewn cyllid ar sail ysgol i ysgol, mae cyfartaleddau awdurdodau lleol yn fwy priodol.

Dyraniadau 16 i 19 – Nid oedd y dyraniadau hyn ar gael ar lefel ysgol.

Grant Datblygu Disgyblion – Nid yw’r dyraniadau fesul ysgol ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion yn cynnwys rhif cyfeirnod ysgol ac felly nid oedd yn bosibl cyfateb y symiau i’r data cyllido eraill.

Cyllid Blynyddoedd Cynnar – Nid yw’r dyraniadau hyn yn cael eu darparu ar lefel ysgol.